1 Myfi ysydd defnydd dig
2 leidr y serch dirgeledic
3 Gwylldion adar glaear glod
4 Anian vthr a wnan nythod
5 A sef y gwnan dan y dail
6 ym-mhlethiad gwead gwiail
7 yn lle diarffordd rhac llu
8 O fygr synnwyr i fagu
9 Yn vn sud yn vn ansawd
10 a hynny cywely cawdd
11 Cariad a wnaeth caeth yw'r cof
12 Anoethineb nyth ynof
13 Am dwy ais ym Duw Iesu
14 fyth ai cudd gwaith difudd fu
15 Gwyal ydynt hynt hyfriw
16 dau ystlys gwas destlus gwiw
17 Canu a wnaf cyd cwynwyf
18 Am calon fyth iw nyth nwyf
19 Ni chair serch y loew-ferch lan
20 Ni thwyllir o'r nyth allan
21 Ni feidr eiddig anfadwr
22 Ar y nyth hwn arw-noeth wr
23 A mi nim dawr gawr garsyth
24 cynn nis metro y fo fyth
25 dilys gennif fardd dilyth
26 yn wir na wybyddir byth
27 Onis pair drwy anair drwg
28 twrn aelaw tirion olwg
29 Meddwl calon a bron brudd
30 drwy amgylch draw a ymgudd
31 ple bynnac ddinac ddeunwyf
32 tyb oedd yn y ty y bwyf
33 a drem goris ael dramain
34 I'm cenfydd cof hafddydd cain
35 llw beiddiadf or lle byddwyf
36 Minnau a'i gwyl engyl wyf
37 I chwerthinad gariad gael
38 a'r munud ar ei meinael
39 Newidio'r drem ni wadaf
40 am chwaer dim amgen ni chaf
41 Ef aeth ei threm gem Cymry
42 ai chariad ehediad hy
43 Dyn fain wengain ewyn-gorph
44 drwy 'mron a'm calon am corph
45 Mal ydd ai gwiw ddifai gofl
46 gron-saeth drwy yscub grinsofl
47 ni ad Beuno tro tremyn
48 Abad hael fyth wybod hyn
49 Gymro dig heb Gymru dir
50 Y byddaf o gwybyddir
dd' ap Gwilym